Y Cyfarfod Llawn

 

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mercher, 6 Chwefror 2013

 

 

Amser y cyfarfod:
13:30

 

 

 

 

Pleidleisiau a Thrafodion

(112)

 

<AI1>

1.   Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ

 

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd cwestiynau 1 i 3 a 5 i 15.  Cafodd cwestiynau 3 a 13 a chwestiynau 9 a 14 eu grwpio.  Tynnwyd cwestiwn 4 yn ôl.

 

</AI1>

<AI2>

2.   Cwestiynau i’r Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth

 

Dechreuodd yr eitem am 14.18

Gofynnwyd cwestiynau 1 i 12 a 14 i 15. Atebwyd cwestiwn 4 gan y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd. Tynnwyd cwestiwn 13 yn ôl.

 

</AI2>

<AI3>

3.   Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)

 

Dechreuodd yr eitem am 15.02

NDM5137

 

Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Byron Davies (Gorllewin De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi bod cerddwyr a gafodd eu hanafu neu eu lladd yn cynrychioli 21 y cant o nifer y bobl a laddwyd ac a anafwyd yn ddifrifol mewn gwrthdrawiadau traffig ar y ffyrdd yng Nghymru yn 2011;

 

2. Yn cydnabod bod terfynau cyflymder o 20 milltir yr awr wedi’u profi i fod yn fuddiol i leihau nifer y bobl sy’n cael eu hanafu neu eu lladd; a

 

3. Yn galw ar awdurdodau lleol i gynyddu nifer y parthau 20 milltir yr awr yng Nghymru.

 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

</AI3>

<AI4>

4.   Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar Losgi Gwastraff

 

Dechreuodd yr eitem am 15.50

NDM5161 William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar Ddeiseb P-04-341: Llosgi Gwastraff, a osodwyd gerbron y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Rhagfyr 2012.

 

Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i’r adroddiad ar 30 Ionawr 2013.

 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

</AI4>

<AI5>

5.   Dadl yn ceisio cytundeb y Cynulliad i gyflwyno Bil Arfaethedig Aelod ar Ofal yn y Gymuned (Taliadau Uniongyrchol) (Cymru) (Mark Isherwood)

 

Dechreuodd yr eitem am 16.44

NDM5121 Mark Isherwood (Gogledd Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.91:

 

Yn cytuno y caiff Mark Isherwood gyflwyno Bil er mwyn gweithredu'r wybodaeth cyn y balot a gyflwynwyd ar 14 Hydref 2011 o dan Reol Sefydlog 26.90.

 

Tynnwyd y cynnig yn ôl yn unol â Rheol Sefydlog 12.27.

 

 

</AI5>

<AI6>

Cyfnod Pleidleisio

 

Ni chafwyd Cyfnod Pleidleisio.

 

</AI6>

<AI7>

6.   Dadl Fer

 

Dechreuodd yr eitem am 17.22

NDM5160 Nick Ramsay (Mynwy):

 

Cyfrifiadura Perfformiad Uchel – Pweru arloesedd er lles economi Cymru

 

 

</AI7>

<AI8>

7.   Dadl Fer - gohiriwyd o 23 Ionawr

 

Dechreuodd yr eitem am 17.43

NDM5145 Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed):

 

Arbennig, Unigryw ac mewn Argyfwng - Y bygythiadau i ddiwydiant Cig Oen Cymru a’r angen i weithredu

 

</AI8>

<TRAILER_SECTION>

Daeth y cyfarfod i ben am 18:10

 

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mawrth, 19 Chwefror 2013

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

 

FIELD_SUMMARY

 

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</ TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

 

</ COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>